P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Y Cynghorydd Mike Powell, ar ôl casglu cyfanswm o 126 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Ar 15-17 Ionawr 2019, fe wnaeth adroddiad gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr daflu goleuni ar ddigwyddiadau difrifol a gofidus yn y ddarpariaeth famolaeth o dan reolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Rydym yn ofyn am Ymchwiliad Barnwrol i weld sut y digwyddodd y methiant sylweddol yng ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

 

Rydym yn galw am yr Ymchwiliad Barnwrol hwn gan nad yw o fewn cylch gwaith yr adolygiad y gofynnodd Senedd Cymru amdano gan y Panel Trosolwg Annibynnol ar Wasanaethau Mamolaeth i ddarganfod beth a achosodd y methiant hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

"Cafodd yr aseswyr fod y gwasanaeth yn gweithio o dan bwysau eithafol ac o dan arweinyddiaeth glinigol a rheoli nad oedd o’r safon orau. Roedd y canfyddiad gan y Bwrdd Iechyd o danadrodd am ddigwyddiadau difrifol wedi arwain at fwy o graffu mewnol ac allanol, sy’n dangos nad oedd prosesau llywodraethu sylfaenol wedi’u rhoi ar waith yn briodol eto. Roedd disgwyl hefyd y byddai’r gwasanaeth yn mynd ati’n fuan i gyfuno dwy uned ar wahân dan arweiniad meddyg ymgynghorol ar un safle ag uned annibynnol dan arweiniad bydwragedd ar y safle arall, heb dystiolaeth bod timau clinigol yn ymwneud â’r penderfyniad hwn a’r broses ar ei gyfer ac yn ei gefnogi. Ar ben hyn, gwelwyd bod nifer o swyddi bydwragedd heb eu llenwi, arweinyddiaeth glinigol nad oedd o’r safon orau, defnydd sylweddol o staff meddygol locwm ar lefel meddygon iau a meddygon ymgynghorol a diffyg safonau ymarfer sefydledig."

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-05/adroddiad-adolygiad-o-wasanaethau-mamolaeth-bwrdd-iechyd-cwm-taf.pdf

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Pontypridd

·         Canol De Cymru